ALAW,—_O Gylch y Ford Gron_.
MAE’N Gymro byth pwy bynnag yw,
A gâr ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw ’n Gymro ’rioed,
A wado fro ei fam.
Aed un i’r gâd a’r llall i’r môr,
A’r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wnaiff y Cymro iawn.
_Cydgan_: Does neb yn caru Cymru ’n llai,
Er iddo grwydro ’n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol.
Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honi ’n hir,
Ac er i’r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,
Mae ’r cof am dad a mam yn mynd
I’r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw galw ’n ol.
Enilled aur ac uchel glod,
Mewn gwlad o win a mêl;
Aed yn ei longau ar y môr,
Er maint o’r byd a wêl;
Wrth edrych ar fachludiad haul
A gwylio ser y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
Yn son am Gymru dlos.