[Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi
digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o’r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859.
Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd
fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, _ar y dydd a’r awr
grybwylledig_.—J. C. H.]
DISGYNNAI ’r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A’i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu ’r wylo iddi’ hun,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai ’r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,
A llosgi ’r oedd y ganwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio ’r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddiau taer,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai ’r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau ’r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythâu
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai ’r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i’r nef,
Yn swn yr hen Feibl mawr.
Disgynna ’r gwlaw, ac eto ’r gwynt
A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei chanwyll frwyn;
Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.