ER

Transcribed from the 1902 Ab Owen edition by David Price,

ccx074@pglaf.org

[Picture: Public domain cover]

[Picture: J. Ceiriog Hughes. Tynnwyd y darlun yn ei ardd yn Llandiloes,

yn 1867. [O’r “Oriel Gymreig.”]]

[Picture: Decorative graphic spelling Ceiriog]

* * * * *

[Picture: Decorative graphic]

* * * * *

LLANUWCHLLYN, AB OWEN.

1902.

* * * * *

ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN MRI. HUGHES A’I FAB,

GWRECSAM.

* * * * *

Rhagymadrodd.

AR un o lethrau’r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei

gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd a

bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i’w

gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.

Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd

John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i’r ysgol yn Nant

y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i

fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa

argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth

ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a

chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris

ar draddodiadau ac alawon Cymru.

Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gân fuddugol,—“Myfanwy Fychan,”—yn

Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a’i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei

“Oriau’r Hwyr;” daeth hwn ar unwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd

yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862

cyhoeddwyd ei “Oriau’r Bore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei

grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe

chant o’i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell

un ddeigryn i lawer llygad.

Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn

yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un

flwyddyu. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly,

yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a’r rhan olaf ym

mlaen Dyffryn yr Hafren.

Trwy’r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei

galon,—llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn

hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol

a’r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio’r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn

allu cenhedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac

ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd

oedd.

* * * * *

Wrth drefnu’r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog,

gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw

hyn,—dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a’r tyner yn ei awen, ac nid y

digrif. I’r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o’i enaid, ac ymarllwysiad

teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.

Dymunwn ddiolch yn gynnes i’r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi.

Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o’r caneuon sydd yn y

gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy

mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y ddwy gyfrol brydferth

gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy.

Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei

naturioldeb syml a’i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i’w gân.

Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog â rhai o’i thannau.

Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian mân, a thra bo gwrid mwyn yn hanner

gyfaddef serch, ca’r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog.

“Alun Mabon” yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae

bywyd y bugail yma yn ei bryder a’i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei

fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.

“Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn.” Nid teulu Ceiriog

sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws,

ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei

fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o’i waith ei hun,—

ER

Ceiriog · 第 1 / 112 题