Y GALON DDRWG.

Swelwn echrysa golwg,

Gwael iawn ddrych y galon ddrwg:

Calon afradlon o fryd,

Annuwiol heb ei newid:

Calon yw mam pob cilwg,

An-noeth drefn, a nyth y drwg;

Drwg ddi-obaith, draig ddiball,

Pwy edwyn ei gwŷn a’i gwall?

Effaith y cwymp, a’i ffrwyth cas,

A luniodd pob galanas;

Grym pechod yn ymgodi,

A’i chwantau fel llynnau lli;

Glennydd afonydd y fall,

Dengys bob nwydau anghall;

Dîg-ofid yn dygyfor,

Tân a mŵg, fel tonnau môr:

Uffern yw hon, o’i ffwrn hi

Mae bariaeth yma’n berwi:

Ysbyty, llety pob llid,

Gwe gyfan gwae a gofid;

Trigfa pob natur wagfost,

Bwystfilaidd ’nifeilaidd fost:

Treigle a chartref-le trais,

Rhyfeloedd, a phob rhyw falais;

Rhial pob an-wadal wŷn,

Ty ac aelwyd y gelyn.

Meirch, a chwn, a moch annwn,

Sy’n tewhau yn y ty hwn,

Seirff hedegog mewn ogo,

A heigiau dreigiau blin dro.

Pob lleisiau, arw foesau’r fall,

Sy’n dwad i swn deall;

Swn t’ranau, sain trueni,

Swn gofalon greulon gri:

Melin wynt, yn malu’n wâg,

Rhod o agwedd rhedeg-wag;

A’i chocys afaelus fôn,

Yn troi’u gilydd trwy’n galon;

Drylliad, ag ebilliad bach,

Y maen isaf, mae’n hawsach,

Na dryllio, gwir bwyllo i’r bon,

Ceulaidd, drygioni calon,

C’letach a thrawsach ei thrin,

Mewn malais, na maen melin.

Llais hen Saul, a llys hwn sydd,

Fan chwerw, o fewn ei chaerydd.

Ni all telyn a dyn doeth,

Clywn, ennill calon annoeth.

Och! ni byth, achwyn y bo’n,

Wrth goelio, fod fath galon:

Gweddiwn, llefwn rhag llid,

Yn Nuw, am gael ei newid.

Nid oes neb a’i hadnebydd,

Ond gain y Tad, a’i rad rydd;

A’n gair os daw, gwiw-ras dôn,

A dry’r golwg drwy’r galon:

A drwg calon draw cilio,

Amen fyth, mai hynny fo.

PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.

BRENIN, USTUS, ESGOB, HWSMON.

Rhyfela, Cyfreithio, Efengylu, Lluniaethu.

_Awyr_, _Tân_, _Dwfr_, _Daear_.

Anadl, Cyfraith, Efengyl, Cnawd.

YN gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn,

oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn ei

wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe fydd y

farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel Phariseaidd, a

hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.

Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i’m gorchwyl, mi a

ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith pawb a

brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu nag ystyried,

i ddar llen neu wrando yr hyn sy’n gynwysedig; ac yna hwy a gânt adnabod

fod pob gair yn wir at ei achos.

Yn gyntaf, fe ddaw un i adnodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at

hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o’r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol hynny,

yr Hwsmon (sef y Cybydd); ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog. A daw un

dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i fyned yn

offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a’r llygnedd sydd mewn gosodiadau

eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac ato ef yr Hwsmon, ym mha le y

dangosir dull y cam-gyfreithiau a’r creulondeb sydd yn y wladwriaeth. A

daw yr Hwsmon i’w ddyrchafu ei hun, mai efe sy’n cynnal pawb; i ba un yr

atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal ei hun,—fod sefyllfa ddynol yn

gyffelyb i un dyn, y pen a’r holl aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw

yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu,

os cai hoedl hwy, y byddai yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i

ychydig o enw diwygiad; ond pan gyntaf y gwellhaodd o’i glefyd, y mae yn

myned waeth nag o’r blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd

hyn y mae’r llyfr hwn yn treiglo.

Nid oes gennyf ond ei adael i’ch barn chwi oil, gan obeithio nad oes neb

mor foethus na allant “brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda.”

Yr eiddoch oll, &c.,

Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol 2 · 第 7 / 12 题