Transcribed from the 1910 Llanuwchllyn: Ab Owen edition by David Price,
email ccx074@pglaf.org
[Picture: Twm o’r Nant. (O ddarlun dynnwyd ym niwedd ei ois.) “Daeth
henaint oed wth ynnwyf, Dirfawr nych, a darfu’r nwyf.”]
Gwaith
Twm o’r Nant
**
Y PEDAIR COLOFN.
CYWYDD HENAINT.
* * * * *
Llanuwchllyn: AB OWEN
1910.
* * * * *
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD: AB OWEN GAN R. E. JONES
A’I FRODYR, CONWY.
* * * * *
Rhagymadrodd.
GANWYD Thomas Edwards (_Twm o’r Nant_) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn
1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i’r Nant Ganol,
Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei rieni;
gweithient yn galed, ac nid o’u bodd y rhoddai eu bachgen athrylithgar ei
amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn
ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O
amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro i
ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd y treuliodd
ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parod ei ddyfais, ond ni
lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810, gan mlynedd i eleni; a
chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych.
Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna’r pam na chafodd ei athrylith, er cryfed
ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl Cymru. Pe
ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a hwyrach y buasai
cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama. Pe ganesid ef yn
ddiweddarach, buasai’r Diwygiad wedi puro ei genedl ac wedi sancteiddio
ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i genedl newydd yn yr un drych.
Ond daeth Twm o’r Nant yn oes y Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn
galw ar y genedl i edrych o honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y mae
interliwdiau Twm o’r Nant yn naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd
y ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn.
Yr oedd cydymdeimlad Twm â’r werin, rhed holl nerth ei serch mawr at y
tenant gorthrymedig a’r gweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad Ffrengig
ynddo yntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.
Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag un eithriad, mor
rymus dros foesoldeb a phregethau’r Diwygiad. Ni welodd holl ddrwg
chwant y cnawd.
Fel dramayddwr y mae’n fwy nag yw’r Wyddfa yn Eryri, saif yn llenyddiaeth
Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad ddarluniodd yn fyw, nid
yw’n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw byth yn ail gerdded yr un
llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw ei allu rhyfedd i siarad fel
ysbryd goreu ei oes,—yn synhwyrol, ac ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn
hynaws, ac eto heb arbed y drwg. Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru
eto heb deimlo fod Twm o’r Nant wedi dweyd y gwir.
OWEN M. EDWARDS.
[Picture: Decorative graphic of birds on branch]
Cynhwysiad.
Cyfrol. II.
_Cyfnod Aeddfedrwydd a Henaint_.
1. “Dau Fywyd,” sef bywyd amaethwr llwyddiannus a bywyd 9
prydydd tlawd
2. “Bonedd a Chyffredin,” teimlad Cymru yn amser 12
Chwyldroad Ffrainc
3. Hafgan Twm o’r Nant 19
4. “Anwyl Gyfaill,” cerdd i un dan groesau 21
5. Cywydd y Galon Ddrwg 25
6. Pedair Colofn Gwladwriaeth,—sef Brenin, Esgob, 27
Ustus, a Hwsmon. Interliwd yn dangos bywyd y
wladwriaeth
7. Cyffes y Bardd 104
8. Cywydd Henaint 107
[Picture: Decorative graphic of birds]